Telerau ac Amodau

Cynghorir pob rhiant i ddarllen y llyfryn Gwybodaeth i Rieni sy’n rhoi manylion am brosesu ceisiadau.

Datganiad

Rwy’n cadarnhau fy mod wedi darllen a deall y dogfennau ategol ar dudalen dderbyn berthnasol gwefan y Cyngor.

Rwy’n cadarnhau mai fi yw gwarcheidwad cyfreithiol y plentyn dan sylw ac mae gennyf gyfrifoldeb rhiant drosto, a bod yr holl wybodaeth yn y cais hwn yn wir hyd y gwn I.

Rwy’n cydnabod bod hawl gan Gyngor Caerdydd i dynnu unrhyw gynnig lle ar gyfer fy mhlentyn yn ôl, os darganfyddir fy mod wedi datgan gwybodaeth anwir yn y cais yn fwriadol.

Rwy’n deall y bydd swyddogion y Tîm Derbyn Disgyblion yn cael data gan Adran Treth Gyngor y Cyngor er mwyn sicrhau bod y cyfeiriad rwyf wedi’i ddatgan ar y cais hwn yn gywir. Felly, tybir bod cydsyniad i hynny pan wneir cais ar-lein.

Noder: Os nad ydych yn fodlon cydsynio â hyn, dylech wneud cais ar bapur a bydd yn ofynnol cyflwyno dogfennau gwreiddiol yn rhan ohono.

Bydd rhaid cyflwyno argymhellion ysgrifenedig gan feddyg ymgynghorol, gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr proffesiynol tebyg sy’n nodi rhesymau manwl dros dderbyn y plentyn i ysgol benodol.

Rwy’n deall bod rhaid anfon unrhyw wybodaeth ychwanegol i gefnogi’r cais i Adran Derbyn Disgyblion, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW